ABSTRACT
This is a transcript of a weather forecast broadcast on S4C at the end of the evening news bulletin. Unsurprisingly for what is actually a spoken piece, the language is a standard spoken style, devoid of the specifically LW features that tend to appear in official and media writing, and may be taken as an accurate reflection of natural everyday Welsh. There are a number of comparatives in -ach in this piece; also a number of instances of dropped auxiliaries (e.g. ond hynny ddim yn para ‘but that not lasting’), a ‘shorthand’ style common in this type of report as much in Welsh as in English. You will need the points of the compass: N gogledd, S de, E dwyrain and W gorllewin. Rhagolygon
Mae pethau’n newid yn °raddol ar hyn o °bryd – troi’n °fwynach dros y deuddydd nesa. Ond heno’n °gynta: fel y nosweithiau diwetha, yn rhewi’n °o °galed ymhellach o’r arfordiroedd. Gwasgedd uchel yn y dwyrain felly’n cadw’r awyr yn °glir a’r awel yn °gymharol ysgafn inni heno. Ond fory dylanwad y gwasgedd uchel’ma’n llacio a hyn yn rhoi cyfle i ffryntiau symud i mewn o’r gorllewin. Ffrynt dros Iwerddon yn cynhyrchu mwy o °gymylau inni yn ystod y dydd yfory, ac mae ambell °gawod yn °bosib wrth arfordiroedd y gorllewin pella. Ond am y tro yn aros yn sych, yn oer iawn i’r mwyafrif. Mi °fydd’na °bocedi o niwl tua’r dwyrain a’r de, a’r awel’na eto yn ysgafn ond yn troi i chwythu o °gyfeiriad mwy deheuol yn °raddol. Felly bore fory digon oer peth cynta, cyfnodau brafiach yn °gynnar yn y dwyrain, ond cymylu yn °gyflym o °gyfeiriad y gorllewin – ambell °gawod °ddigon ysgafn wrth yr arfordiroedd erbyn y pnawn. Ac er bod’na °rywfaint o amheuaeth ynglŷn â’r amseriad, mae’n °debygol y bydd hi’n troi °fymryn yn °wlypach inni hefyd yn hwyrach gyda’r nos. °Dipyn mwynach inni wedyn nos fory a dydd Mercher, er y bydd’na °gawodydd a gwynt cryfach dan °ddylanwad y gwasgedd isel. Mi °fydd y tymheredd yn y ffigurau dwbwl i °rai. Ond hynny °ddim yn para chwaith, fel gwelwch chi – erbyn diwedd yr wythnos gwyntoedd gogleddol inni unwaith eto. Mi °fydd’na °rai cawodydd °ddydd Iau, ond sawl gradd yn oerach.
Geirfagraddol – gradual
mwyn – mild
noswaith (nosweithiau) – evening
rhewi – freeze
gwasgedd – pressure
awyr – air; sky
awel – breeze
cymharol – comparative
ysgafn – light
llacio – ease off, diminish
ffrynt (-iau) – (weather) front
cynhyrchu – produce (v)
cwmwl (cymylau) – cloud
cawod (-ydd) – shower
sych – dry
niwl – fog
chwythu – blow
cyfeiriad – direction
deheuol – southerly
cyfnod (-au) – period
cymylu – cloud over
rhywfaint – a certain amount
amheuaeth – doubt
amseriad – timing
tebygol – likely
gwlyb – wet
hwyr – late
tymheredd – temperature
para (= parhau) – continue
chwaith – either