ABSTRACT
This piece from the online pages of Y Cymro reports on the 2012 contest for the leadership of Plaid Cymru, a broadly socialist party whose ultimate goal is an independent Wales; in addition to this political aim, PC has, right from its foundation in the nineteenth century, also campaigned strongly in support of the Welsh language, although in recent years it has made a point of emphasising to the electorate of Wales that it is a party that aims to have equal appeal to the non-Welsh-speaking majority. Because of this, while the party has traditionally found its strongest support in the Welsh-speaking heartlands of North and West Wales, it has long had an ambition to break through into the more populous areas of the South, notably the Valleys, aiming to displace Labour in the process, and in recent years determined efforts have been made to bring this about, particularly since the establishment of the Welsh Assembly after the 1997 referendum on devolution. In March 2012 Leanne Wood, who hails from the Rhondda in the South Wales valleys and represents the left wing of the party, was elected the new leader – the first woman to hold the position, and also the first non-native speaker of the Welsh language. This report is from the later stages of the campaign that led to Leanne’s victory. Leanne Wood yn cael cefnogaeth un o'r prif enwau ym mudiad yr undebau llafur
Mae Leanne Wood, Plaid Cymru, wedi cael cefnogaeth un o’r prif enwau ym mudiad yr undebau llafur.
Cyhoeddodd Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ei fod yn cefnogi gwaith Ms Wood, gan ddweud ei bod hi’n “un o’r gwleidyddion amlycaf yng Nghymru.” Bu’r AC dros Ganol De Cymru yn danbaid ei hamddiffyniad o hawliau gweithwyr a bu’n gyson ei chefnogaeth i’r llinell biced a ralïau’r undebau dros y blynyddoedd wrth amddiffyn cyflogau ac amodau gweithwyr y sector cyhoeddus. Leanne hefyd yw cadeirydd presennol y GrAp PCS trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Meddai Mr Serwotka, sy’n hanu o Aberdâr: “Bu Leanne yn gyfaill cyson i PCS ac yn ymgyrchydd brwd dros fuddiannau ein haelodau. Pan aethom ati i sefydlu grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad Cenedlaethol yn 2005, etholwyd Leanne yn gadeirydd, ac mae’n parhau i gyflawni’r swyddogaeth honno heddiw. Bu’n mynd i’r afael â’n pryderon yn egnïol bob gafael – gan bwyso ar weinidogion ac uwch reolwyr am sicrwydd ynghylch swyddi, cyflogau ac amodau. Pryd bynnag y byddem mewn anghydfod, byddai Leanne yn siarad dros gyfiawnder ein hachos. Byddai’n cydsefyll â ni ar y llinell biced ac mewn ralïau streicio.
“Mae PCS yn ddiolchgar am y gefnogaeth ddi-baid y mae Leanne wedi’i rhoi inni dros y blynyddoedd – nid oes un gwleidydd yng Nghymru wedi bod yn gyfaill mor ddibynadwy i’n haelodau.
Meddai hefyd: “Does dim amheuaeth gen i mai hi yw un o’r gwleidyddion amlycaf yng Nghymru ac rydym yn falch o’i chefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn.”
Meddai Ms Wood: “Mae Mark yn rhywun rwy’n ei edmygu’n fawr iawn felly mae ei gefnogaeth yn golygu llawer i mi. Bu’n ddraenen barhaus yn ystlys Llywodraethau olynol yn San Steffan pryd bynnag y byddent yn ceisio diddymu hawliau ei aelodau y bu’n rhaid ymladd yn galed i’w hennill.
“Nid oes arno ofn sefyll dros yr hyn sy’n iawn ac mae’n barod i ochri â gweithwyr y sector cyhoeddus yn wyneb ymosodiadau parhaus ac anghyfiawn Llywodraeth y Con/Demiaid.
“Tra bod pleidiau gwleidyddol eraill bellach yn celu rhag cefnogi hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus, credaf y gall Plaid Cymru arwain y ffordd wrth ddangos i weithwyr mai ni yw’r blaid a fydd yn cynrychioli eu buddiannau ac yn ymladd dros eu hawliau i dderbyn cyflog byw ac i ymddeol heb fod mewn tlodi.
“Credaf yn gadarn y bydd Cymru’n well ei byd fel gwlad annibynnol, ond tan i hynny ddigwydd, mae’n hollbwysig ein bod yn ymladd i gadw’r gwasanaethau a’r swyddi sydd gennym. Dim ond arweinyddiaeth wleidyddol gref a diffuant o Gymru wrth sefyll yn erbyn San Steffan all wneud hynny.
“Dyma’r hyn y gall Plaid Cymru ei gynnig i etholwyr Cymru.”
Geirfacefnogaeth – support (n)
mudiad – movement
undeb (-au) – union
cyhoeddi – announce
cyffredinol – general
masnachol – commercial
AC (Aelod Cynulliad) – AM (Assembly
Member)
tanbaid – fervent, fiery
amddiffyniad – defence
hawl (-iau) – right (n)
cyflog (-au) – wages, salary
trawsbleidiol – cross-party
hanu – come from, hail from
cyfaill – friend
ymgyrchydd – campaigner
brwd – enthusiastic
buddiant (buddiannau) – interest
aelod (-au) – member
ethol – elect
swyddogaeth – function, office
pryder (-on) – concern
egnïol – energetic
pwyso – lean, put pressure
gweinidog (-ion) – minister
anghydfod – dispute
cyfiawnder – justice
achos – cause
cydsefyll â h – stand alongside
di-°baid – ceaseless
dibynadwy – dependable
edmygu – admire
draenen – thorn
parhaus – constant
ystlys – side, flank
olynol – successive
diddymu – wipe out, get rid of
ymladd – fight
ochri â h – side with
ymosodiad (-au) – attack (n)
anghyfiawn – unjust, unfair
celu – hide, shy away
cynrychioli – represent
ymddeol – retire
tlodi – poverty
cadarn – firm
annibynnol – independent
hollbwysig – vital
arweinyddiaeth – leadership
diffuant – genuine, sincere